You are here: What's On > Brên. Calon. Fi.
Brên. Calon. Fi.
Type:LGBTQ+
Broad Street
Rhosllannerchrugog
Wrexham
Wrexham
LL141RB
Tel: 01978 841300

About
Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow
"Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd." BBC Radio Cymru
Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi'm deud wrth neb bod hi'n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.
Wrth i Fi fynd â ni ar daith o'i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a'r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.
Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i'r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o'i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi'i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan.
Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a pherfformiwyd yn wreiddiol ym Mhontypridd 2024.
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys goleuadau'n fflachio, synau uchel, iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at drais rhywiol
---
Brên. Calon. Fi by Bethan Marlow
Meet Fi: a girl in a North Wales village with spiky hair and a BMX, fancying girls but pretending to be straight; falling for a woman on the rugby team without telling anyone that she's also fallen into her bed; going to London to be a lesbian in a lesbian world loving every lesbian second… until she's not.
As Fi takes us on a journey through her love life – the secret crushes, the awkward sex and the messy heartbreak – she explores the complexities of being true to yourself while growing up as a tomboy in the nineties.
Following an incredible response to the premiere performances at the Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod 2024, Bethan Marlow's Brên. Calon. Fi will go on tour as part of this year's Pride Month celebrations in June. The first of its kind, this is a hilarious and heart-wrenching monologue about lesbian love and desire, directed by Rhiannon Mair and starring Lowri Morgan.
Originally developed with support from the National Eisteddfod of Wales and performed at Pontypridd 2024.
Age Guidance: 16+
Contains flashing lights, loud noises, strong language, adult themes and references to sexual assault
Guide Prices
Adult / Oedolyn: £16
Concession / Consesiwn: £14
Map & Directions
Opening Times
Season (18 June 2025) | ||
---|---|---|
Day | Times | |
Wednesday | 19:30 |
Follow Us...
Facebook
Twitter
Instagram
Youtube